Owen JohnPRITCHARDPRITCHARD - OWEN JOHN (O.J. SEIN). 24 Hydref 2014 yn frawychus o sydyn yn ei gartref 52 Bron y Graig, Bodedern yn 75 mlwydd oed. Priod annwyl a ffyddlon Nancy, tad tyner Mandy, taid annwyl Garry, Donna a Kelly, hen daid hoffus Tomos John a brawd hoff Minnie. Angladd dydd Iau, 30 Hydref. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Gorffwys Preswylfa, Fali am 1.30 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Cyhoeddus Bodedern. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ymchwil y Galon trwy law Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffon (01407) 740 940.
Keep me informed of updates